Cymwysterau 2022
Yr hyn y mae angen i chi ei wybod
Rydyn ni eisoes wedi cyhoeddi a chyfleu mewn llythyrau at ysgolion a cholegau bod arholiadau'n mynd yn eu blaenau yn 2022.
Bydd arholiadau'n digwydd yr haf yma ar gyfer cymwysterau TGAU, UG a Safon Uwch, ac ar gyfer rhai cymwysterau galwedigaethol. Bydd asesiadau ymarferol ac asesiadau di-arholiad eraill hefyd yn cael eu cynnal.
Rydyn ni’n gwybod bod y pandemig wedi tarfu ar addysg yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf, sydd wedi bod yn anodd. Dyna pam rydyn ni wedi gwneud newidiadau i'r ffordd bydd cymwysterau yn cael eu hasesu eleni, i'w wneud mor deg â phosibl o ystyried yr amhariad mae dysgwyr wedi'i brofi.
Bydd y cyhoeddiadau diweddaraf yn cael eu cyhoeddi ar ein tudalen newyddion.