Diwygiadau i'r Dystysgrif Her Sgiliau Uwch a fframwaith Bagloriaeth Cymru Uwch
Dydd Mawrth 23 Chw 2021Mae Cymwysterau Cymru wedi cyhoeddi ei benderfyniadau ar gyfer diwygio'r Dystysgrif Her Sgiliau Uwch a fframwaith Bagloriaeth Cymru Uwch yn dilyn eu hymgynghoriad Sgiliau’r Dyfodol a gynhaliwyd yn yr hydref.
Mae'r newidiadau'n cynnwys:
- dod â fframwaith Bagloriaeth Cymru Uwch i ben er mwyn canolbwyntio ar y cymhwyster annibynnol sy'n seiliedig ar sgiliau,
- creu cymhwyster newydd i ddisodli'r Dystysgrif Her Sgiliau Uwch bresennol. Yr enw ar hwn fydd Bagloriaeth Sgiliau Uwch Cymru a chaiff ei gyflwyno ym mis Medi 2023.
Gwnaed y penderfyniadau hyn yn dilyn dadansoddiad gofalus o ganfyddiadau'r ymgynghoriad. Bydd y newidiadau'n adeiladu ar sylfeini cadarn y Dystysgrif Her Sgiliau Uwch bresennol, gan gynnwys ei llwyddiant o ran helpu dysgwyr i gael mynediad i addysg uwch mewn prifysgolion ledled y DU. Bydd y cymhwyster newydd hefyd yn cael ei gynllunio i:
- wella hylawrwydd y cymhwyster ar gyfer dysgwyr, ysgolion a cholegau;
- gwella ymgysylltiad a lles dysgwyr;
- osgoi dyblygu dysgu blaenorol, a
- darparu model symlach sy'n helpu i gyfleu gwerth, diben a strwythur y cymhwyster yn haws.
Bydd y cymhwyster newydd yn parhau i helpu dysgwyr i ddatblygu sgiliau ar gyfer cyflogaeth, dysgu gydol oes a dinasyddiaeth weithredol.
"Bydd ffocws clir i baratoi dysgwyr ar gyfer dyfodol llwyddiannus, a all gyfrannu'n hyderus at Gymru gynaliadwy a'r byd," meddai Prif Weithredwr Cymwysterau Cymru Philip Blaker.
“Rydym hefyd wedi canolbwyntio ar yr hyn sy'n gwneud y cymhwyster hwn yn brofiad dysgu unigryw i ddysgwyr drwy roi dewis iddynt yn yr hyn y maent yn ei astudio a datblygu eu sgiliau drwy brofiadau dysgu go iawn."
Mae'r adroddiad llawn sy'n amlinellu'r penderfyniadau a'r rhesymau y tu ôl iddynt, yn ogystal ag adroddiad sy'n dadansoddi canfyddiadau'r ymgynghoriad, i'w weld ar wefan Cymwysterau Cymru.