Cymwysterau Cymru yn lansio ymgynghoriad ar raddio ar gyfer haf 2020
Dydd Mawrth 28 Ebr 2020Heddiw bydd Cymwysterau Cymru yn cyhoeddi dogfen ymgynghori yn nodi sut y bydd graddau TGAU, UG a Safon Uwch yn cael eu safoni eleni ar draws y wlad, yn niffyg arholiadau, a sut y bydd y broses apelio’n gweithio.
Mae’r rheoleiddiwr yn dymuno i’r holl bartïon â budd bwyso a mesur y cynigion a chyflwyno’u barn cyn i’r trefniadau newydd gael eu cwblhau.
“Mewn cyfnod eithriadol, mae gofyn cael mesurau eithriadol. Bydd Haf 2020 yn brawf o hyn mewn sawl maes, yn cynnwys addysg,” medd y Prif Weithredwr, Philip Blaker.
“O gofio’r penderfyniad i gau ysgolion a chanslo arholiadau o ganlyniad i bandemig y coronafeirws, mae sefydlu trefniadau newydd ar gyfer yr haf hwn yn hanfodol er mwyn i ddysgwyr allu cael eu graddau mewn modd teg a gallu symud yn eu blaen at gam nesaf eu bywydau, pa un a fydd hwnnw’n cynnwys astudio pellach, hyfforddiant neu waith.”
Bydd y graddau’n cael eu seilio ar farn canolfannau ynghylch cyrhaeddiad pob dysgwr, a byddant yn cael eu safoni wedyn ar draws y canolfannau, gan wneud defnydd o amrywiaeth o dystiolaeth arall.
Mae’r ymgynghoriad yn ceisio barn yn ymwneud â dwy agwedd allweddol ar y trefniadau ar gyfer haf 2020.
- Y nodau a fydd yn sail i’r model safoni ystadegol a ddefnyddir i ddyfarnu graddau i ddysgwyr sy’n dilyn y cymwysterau dan sylw. Bydd hyn yn cael ei ddatblygu a’i ddefnyddio gan CBAC i sicrhau y bydd y graddau a gyflwynir gan ganolfannau ledled Cymru yn cael eu barnu ar yr un lefel.
- Y broses apelio benodol y mae ei hangen ar gyfer cyfres arholiadau haf 2020, o gofio na fydd papurau’n cael eu marcio yn y ffordd arferol.
“Rydym yn awyddus i glywed pob barn ac adborth,” medd Mr Blaker. “Nid oes atebion perffaith i’w cael, ac rydym yn ymwybodol y gallai’r cynigion hyn gael eu gweld fel trefniadau llai dymunol na’r trefniadau arferol.
“Pan fydd pobl yn anghytuno â’r cynigion rydym yn eu cyflwyno, a phan fydd ganddynt awgrymiadau neu ddewisiadau amgen ymarferol ar gyfer eu gwella, byddem yn annog y cyfraniadau hyn.”
Mae’r ymgynghoriad hwn yn ymwneud â TGAU, UG a Safon Uwch a Thystysgrif Her Sgiliau Bagloriaeth Cymru a ddatblygir yng Nghymru gan CBAC ac a reoleiddir gan Cymwysterau Cymru.
Bydd yr ymgynghoriad yn dechrau ddydd Mawrth 28 Ebrill ac yn dod i ben am 5pm ddydd Mercher 13 Mai. Gellir cael manylion llawn, yn cynnwys sut i ymateb, ar wefan Cymwysterau Cymru.