Ar gyfer Addysg Uwch
Mae’r Cwestiynau Cyffredin canlynol wedi’u seilio at ymholiadau gan Ddarparwyr Addysg Uwch a byddant yn ddefnyddiol i ymarferwyr derbyniadau yn benodol.
TGAU mewn mathemateg
C: Ai dyfarniad dwbl yw TGAU Mathemateg a TGAU Mathemateg-Rhifedd?
A: Mae TGAU Mathemateg a TGAU Mathemateg-Rhifedd yn ddau gymhwyster ar wahân. Maent yn sylweddol wahanol i’r cymwysterau TGAU Mathemateg blaenorol, ac i’w gilydd, ac maent yn asesu cynnwys a sgiliau gwahanol. Bydd y mwyafrif helaeth o ddysgwyr yng Nghymru’n astudio’r ddau.
C: Ydy TGAU Mathemateg a TGAU Mathemateg-Rhifedd yn ddau hanner TGAU?
A: Mae TGAU Mathemateg a TGAU Mathemateg-Rhifedd yn gymwysterau TGAU llawn, o’r un faint ac yr un mor heriol.
C: A ddylai rhywun sy’n llwyddo mewn TGAU Mathemateg basio TGAU Mathemateg-Rhifedd yn hawdd?
A: Nid o reidrwydd; mae’r ffocws asesu a’r cyd-destunau yn wahanol ac efallai y bydd ymgeiswyr yn gwneud yn well mewn TGAU Mathemateg nag mewn TGAU Mathemateg-Rhifedd neu i’r gwrthwyneb.
C: A fydd disgwyl i ddysgwyr o Gymru astudio TGAU Mathemateg a TGAU Mathemateg-Rhifedd?
A: Disgwylir y bydd y mwyafrif o ddysgwyr yn astudio’r ddau bwnc TGAU, yn enwedig y rhai sy’n debygol o fynd ymlaen i Addysg Uwch.
C: Pa un o’r cymwysterau TGAU Mathemateg a TGAU Mathemateg-Rhifedd newydd y dylem ei bennu’n ofynnol ar gyfer mynediad i gyrsiau?
A: Mae hyn yn debygol o amrywio o gwrs i gwrs. Bydd y ddau gwrs TGAU newydd yr un mor heriol, ond mae pob un yn asesu cynnwys a sgiliau gwahanol: bydd TGAU Mathemateg-Rhifedd yn asesu’r fathemateg y bydd ei hangen ar ddysgwyr yn eu bywydau bob dydd, ym myd gwaith ac, mewn meysydd cyffredinol eraill o’r cwricwlwm. Bydd TGAU Mathemateg, ar y llaw arall, yn ymestyn i agweddau ar fathemateg sydd eu hangen i fynd ymlaen i ymgymryd ag astudiaethau gwyddonol, technegol neu fathemategol pellach. Mae’r gwahaniaethau’n golygu na fydd pob ymgeisydd yn cael yr un radd yn y ddau gymhwyster.
C: Mae angen gradd llwyddo arnom mewn TGAU Mathemateg i fodloni ein gofyniad cyffredinol ar gyfer unrhyw gynllun gradd fel tystiolaeth o gyrhaeddiad academaidd cyffredinol ac ehangder; pa TGAU Mathemateg y dylem ofyn amdani?
A: Ein cyngor yw bod naill ai TGAU Mathemateg neu TGAU Mathemateg-Rhifedd yr un mor dderbyniol ar gyfer y diben cyffredinol hwn.
C: Rydym yn cynnal cyrsiau cystadleuol iawn ac yn chwilio am nifer benodol o raddau uchel iawn e.e. A* mewn TGAU i sgrinio ymgeiswyr cyn eu hystyried ymhellach. Pa TGAU Mathemateg ddylwn i ei chyfrif?
A: Mae TGAU Mathemateg a TGAU Mathemateg-Rhifedd yn ddwy TGAU ar wahân sydd â’u manylebau a’u ffocws asesu eu hunain. Maent yn gyfwerth o ran pa mor heriol ydynt, felly dylai naill ai TGAU Mathemateg neu TGAU Mathemateg-Rhifedd gyfrif.
C: Beth ddylai fod yn ofynnol i ymgeiswyr ar gyfer Gwyddoniaeth, Peirianneg a Mathemateg (pynciau STEM)? A: Ar hyn o bryd mae llawer o gyrsiau ar gyfer pynciau STEM yn gofyn bod gan ymgeiswyr radd C neu uwch mewn TGAU Mathemateg yn ogystal â’r Safon Uwch ofynnol. Oherwydd ei ffocws penodol ar y fathemateg sydd ei hangen i fynd ymlaen i ymgymryd ag astudiaethau gwyddonol, technegol neu athemategol pellach, rydym yn awgrymu bod cwblhau’r cymhwyster TGAU Mathemateg yn foddhaol ar ei ben ei hun yn ddigon, ynghyd â Safon Uwch priodol, neu gymwysterau eraill, i fodloni gofynion y cwrs, sef y sefyllfa ar hyn o bryd.
C: Rydym ar hyn o bryd yn gofyn am TGAU Mathemateg ar gyfer mynd ymlaen i’r Gwyddorau Cymdeithasol e.e. Cyfrifyddu, Economeg, Seicoleg. Pa TGAU Mathemateg ddylwn i ofyn amdani i ymgeiswyr o Gymru ar gyfer y pynciau hyn? A: Ein cyngor ni yw y byddai gwybodaeth ddigonol o dechnegau mathemategol perthnasol a sicrwydd o sgiliau mathemategol yn y naill TGAU mathemateg newydd neu’r llall i fodloni gofynion dilyniant y pynciau hyn. Byddem yn eich annog i edrych ar y manylebau ar gyfer y ddwy TGAU er mwyn eich helpu i ddod i benderfyniad, ond rydym yn argymell eich bod yn llunio cynigion i gynnwys naill ai TGAU Mathemateg neu TGAU Mathemateg-Rhifedd.
C: Pa ofynion TGAU Mathemateg sy’n angenrheidiol ar gyfer Addysg a Hyfforddiant Cychwynnol Athrawon yng Nghymru? A: Mae Llywodraeth Cymru wedi penderfynu y bydd y gofyniad am radd B mewn Mathemateg i gael mynediad at Addysg a Hyfforddiant Cychwynnol Athrawon yng Nghymru yn parhau i fod yn gymwys, a bodlonir hyn drwy ennill gradd B naill ai mewn TGAU Mathemateg neu TGAU Mathemateg-Rhifedd.
C: Pa TGAU fydd ei hangen ar ymgeiswyr er mwyn bodloni gofyniad rhifedd y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth yng Nghymru ar gyfer mynediad ar ei gynlluniau gradd a reoleiddir?
A: Byddai gradd A* i C naill ai mewn TGAU Mathemateg neu TGAU Mathemateg-Rhifedd yn bodloni’r gofynion o ran tystiolaeth ar gyfer rhifedd.
Y cynlluniau gradd a reoleiddir yw:
• Nyrsio Oedolion
• Nyrsio Plant
• Nyrsio Iechyd Meddwl
• Nyrsio Anabledd Dysgu
• Bydwreigiaeth
Am fanylion pellach ynghylch cynnwys a strwythur y cymwysterau TGAU newydd, gallwch weld manylebau’r ddau gymhwyster TAGU ar wefan CBAC yn www.cbac.co.uk.
Bagloriaeth Cymru
C: A yw Bagloriaeth Cymru yr un fath â Bagloriaeth Lloegr neu’r Fagloriaeth Ryngwladol?
A: Mae Bagloriaeth Cymru yn gwbl wahanol i Fagloriaeth Lloegr, y Fagloriaeth Ryngwladol, Bagloriaeth Ffrainc neu unrhyw Fagloriaeth arall. Peidiwch â’u grwpio gyda’i gilydd fel rhai tebyg o ran eich gofynion mynediad.
C: A yw Bagloriaeth Cymru yn gymhwyster amgen i Safon Uwch yng Nghymru:?
A: Disgwylir i’r holl ddysgwyr yng Nghymru astudio Tystysgrif Her Sgiliau Bagloriaeth Cymru ochr yn ochr â’u cymwysterau Safon Uwch neu gymwysterau cyfatebol. Mae Bagloriaeth Cymru yn rhan o addysg brif-ffrwd yng Nghymru; nid yw’n gymhwyster amgen.
C: A ddylem drin Bagloriaeth Cymru fel cymhwyster rhyngwladol?
A: Mae Bagloriaeth Cymru yn gymhwyster cenedlaethol ar gyfer Cymru, ac felly ni ddylid ei osod o dan Gymwysterau Rhyngwladol.
C: Ai yn Gymraeg yn unig mae Bagloriaeth Cymru ar gael?
A: Gellir astudio Cymhwyster Bagloriaeth Cymru yn Gymraeg neu’n Saesneg.