Sut mae cymwysterau Cymru yn paratoi dysgwyr ar gyfer Prifysgol

Dros y flwyddyn ddiwethaf rwyf wedi cael y pleser o siarad â phrifysgolion ledled y DU er mwyn egluro'r newidiadau i'r cwricwlwm ac i gymwysterau yng Nghymru. Rwyf wedi meithrin cysylltiadau â rhanddeiliaid allweddol ym maes Addysg Uwch, gan gynnwys prifysgolion Cymru, Colegau Cymru, Rhwydwaith Seren, UCAS, Grŵp prifysgolion Russell yn ogystal â llawer o brifysgolion eraill ar draws y DU.

Gan Robert Evans, Ymgysylltu Strategol, Cymwysterau Cymru

Beth wnes i ddarganfod? 

Efallai mai'r peth mwyaf sylfaenol yw'r anghysondeb mewn ymwybyddiaeth o'r gwahaniaeth cynyddol rhwng systemau addysg Cymru a Lloegr. 

Roedd yn dipyn o syndod, nid yn unig nad oedd rhai yn Lloegr yn ymwybodol o effaith datganoli addysg, ond hefyd nad oedd nifer sylweddol o bobl sy'n gweithio ym maes addysg yng Nghymru yn ymwybodol o agweddau allweddol yr agenda addysgol “Gwnaed yng Nghymru/Made in Wales”. 

Mae’r manylebau ar gyfer TGAU a Safon Uwch yn ddangosyddion clir o'r gwahaniaethau rhwng Cymru a Lloegr; y ffaith bod Cymru yn asesu fesul A-G tra yn Lloegr mae'r raddfa yn 9-1, ac yng Nghymru, yn wahanol i Loegr, rydym wedi parhau â lefelau UG achrededig, sy'n werth deugain y cant o'r radd Safon Uwch derfynol. Dywedodd llawer o brifysgolion wrthyf eu bod yn gweld hyn yn ddefnyddiol fel dangosydd potensial. 

Mae prifysgolion bob amser eisiau gwybod am yr adolygiadau sector galwedigaethol gaiff eu cynnal yng Nghymru gan Cymwysterau Cymru mewn meysydd megis iechyd a gofal cymdeithasol, gofal plant, adeiladu, Peirianneg TGCh / Digidol. Maent yn gefnogol i gyfeiriad y trywydd yn rhai o'r adolygiadau er mwyn lleihau nifer y cymwysterau galwedigaethol sydd ar gael yng Nghymru. 

Roedd llawer o brifysgolion yn dweud yn agored y gall nifer ac ystod eang y cymwysterau galwedigaethol sydd ar gael i ddysgwyr arwain at ddryswch, gyda'r dysgwyr eu hunain weithiau'n ansicr pa gymhwyster yr oeddent yn ei astudio! 

Efallai mai'r syndod mwyaf a’r mwyaf dymunol oll yw’r derbyniad hollgyffredinol bron a gafodd y Dystysgrif Her Sgiliau a Bagloriaeth Cymru. Gwelwyd cynnydd yn nifer yr ysgolion a'r colegau sy'n cynnig y Fagloriaeth. Mae'r Penaethiaid Chweched Dosbarth hynny ar draws Cymru y bûm yn siarad â nhw yn gadarnhaol iawn am y cymhwyster, o ran ehangu sgiliau yn ogystal â'i ddefnyddioldeb fel cyfrwng pontio i astudiaethau Addysg Uwch. Dywedodd llawer wrthyf am bwysigrwydd y Dystysgrif Her Sgiliau wrth gyflawni cynigion oddi wrth ystod eang o brifysgolion. 

Yn wir, un o fythau mawr addysg yng Nghymru yw nad yw llawer o brifysgolion yn rhoi gwerth ar y Dystysgrif Her Sgiliau. Cefais i mai’r gwrthwyneb oedd yn wir; er enghraifft, mae mwyafrif prifysgolion y DU yn ei dderbyn, a hynny’n aml yn lle pwnc Safon Uwch. Mae prifysgolion Grŵp Russell e.e. Southampton, Exeter, Caerdydd, Birmingham, Bryste a Manceinion fel arfer yn derbyn y Fagloriaeth yn lle pwnc Safon Uwch. 

Roedd hyd yn oed y nifer fach iawn o brifysgolion nad ydynt yn cynnwys y Dystysgrif Her Sgiliau yn eu cynigion yn dweud wrthyf eu bod yn gwerthfawrogi’r sgiliau sy’n cael eu datblygu a bod ganddynt ddiddordeb bob amser yn yr ‘Heriau’ y mae myfyrwyr yn mynd i’r afael â nhw. Yn eu barn nhw, roedd hyn yn arbennig o wir am yr Ymchwiliad Unigol, sy'n galluogi myfyrwyr Cymru i ymwahaniaethu oddi wrth eu cyfoedion ac arddangos eu sgiliau a sefyll allan yn eu ceisiadau a'u cyfweliadau. 

Adlewyrchir yr agwedd hon yn y sylw a wnaed gan Dr Matthew Williams, Cymrawd yng Ngholeg Iesu Rhydychen: ‘Mae’r Dystysgrif Her Sgiliau yn anarferol fel cymhwyster y mae ei gynnwys i raddau helaeth yn cael ei arwain gan y myfyrwyr eu hunain. Rydym yn gwerthfawrogi’n aruthrol yr hunan-gymhelliant, y chwilfrydedd a’r meddylfryd annibynnol y mae’r ymagwedd hon tuag at ddysgu yn ei ddatblygu’. 

Un fenter sy'n cael effaith drwy leihau anghydraddoldebau addysgol yw'r Rhwydwaith Seren, sy'n ceisio cynyddu nifer y myfyrwyr Safon Uwch uchel eu cyflawniad yng Nghymru gaiff eu derbyn i’r prifysgolion mwyaf dewisol. 

Mae myfyrwyr Seren yn derbyn y math o fanteision y mae myfyrwyr sy'n mynychu Ysgolion Annibynnol yn eu derbyn, gan gynnwys dosbarthiadau meistr, ymweliadau preswyl a chyngor a chefnogaeth arbenigol gan academyddion prifysgol. 

Mae hyn i’w weld trwy'r llwyddiant y mae'r rhwydwaith wedi'i gael ym Mhrifysgol Caergrawnt, lle mae myfyrwyr o ysgolion gwladol Cymru 10% yn fwy tebygol o gael cynnig lle na chyfartaledd y DU. 

Gyda'i gilydd, mae'r datblygiadau a amlinellir uchod yn adlewyrchu cyfnod deinamig a chyffrous yn hanes addysg ôl-16 yng Nghymru.