The road to reform

  Gan Philip Blaker, Prif Weithredwr, Cymwysterau Cymru

Mae Papur Gwyn y Cwricwlwm i Gymru wedi ysgogi amrywiaeth o drafodaethau, gan gynnwys sut y bydd plant Cymru yn dangos eu cyflawniad addysgol pan fyddant yn 16 oed. 

Fel y rheoleiddiwr annibynnol, mae'n gwestiwn rydym yn canolbwyntio arno ac rydym yn awyddus i glywed barn pobl wrth i ni gynllunio'r dyfodol. Er mwyn helpu i'w ateb, mae'n ddefnyddiol troi'r cloc yn ôl er mwyn cael y cyd-destun. 

Roedd y diwygiadau presennol i gymwysterau TGAU a Safon Uwch yn llawn cymaint o ymateb i waith diwygio cymwysterau mewn mannau eraill ag yr oeddent yn adlewyrchu canfyddiadau'r Adolygiad o Gymwysterau yn 2012. Roedd yn ddewis mawr i Gymru: derbyn y rhesymeg dros y newidiadau mawr a wnaed i gynllun cymwysterau TGAU a Safon Uwch yn Lloegr, neu wneud rhywbeth gwahanol.  

Dewisodd Cymru wneud rhywbeth gwahanol, gan wneud llawer o bethau yn yr un ffordd ag o'r blaen yn ddigon rhyfedd, a chadw'r graddau A* i G ar gyfer cymwysterau TGAU, a chadw cymwysterau Uwch Gyfrannol yn rhan o Safon Uwch.  

Ond gwnaeth penderfyniad Cymru i ddilyn ei llwybr ei hun nodi'r pwynt lle y byddai'r TGAU a Safon Uwch a ddatblygwyd ac a ddyfarnwyd yng Nghymru yn wahanol i'r rheini a gymerwyd yn Lloegr, a hynny am y tro cyntaf.  

Roedd hyn oll cyn adolygiad yr Athro Donaldson a datblygiad dilynol Cwricwlwm newydd i Gymru. Bydd yr ymateb i'r cwricwlwm newydd yn gweld dull newydd o fynd i'r afael â TGAU yng Nghymru yn dod i'r amlwg. 

Mae'r cwricwlwm newydd ar gyfer plant a phobl ifanc rhwng 3 ac 16 oed, gyda'r ddwy flynedd olaf yn cael eu rhagweld fel 'cyfnod y cymwysterau'. Efallai y byddwn yn gweld mwy o ddewis a chyfleoedd i fyfyrwyr arbenigo a chanolbwyntio ar agweddau penodol ar y cwricwlwm mewn mwy o fanylder. Mae'n rhy gynnar i ddweud sut fydd hynny'n edrych ar waith. 

Beth rydym yn ei wybod yw bod TGAU yn fesur dibynadwy o gyflawniad sy'n gofyn am lefel uchel o hyder y cyhoedd. Felly mae'n debygol y bydd cymwysterau TGAU yn bodoli o hyd ond bydd angen iddynt newid i adlewyrchu'r cwricwlwm newydd, ac mae'n bosibl y byddant yn edrych yn wahanol iawn i gymwysterau TGAU heddiw. 

Mae llawer o gwestiynau y bydd angen i ni eu hateb dros y 12 mis nesaf, ond dyma dri o'r rhai allweddol a fy marn arnynt... 

1. Ffocws, maint a strwythur - ehangder neu ddyfnder? 

Mae cadw'r model TGAU yn un peth, ond beth fydd cymwysterau TGAU unigol yn canolbwyntio arno, sut y byddant yn cysylltu â'r chwe Maes Dysgu a Phrofiad a pha lefel o ehangder a dyfnder gwybodaeth a phrofiad y dylent eu cynnwys? 

Mae TGAU yn cynnig cydbwysedd o ehangder a dyfnder ar hyn o bryd. Eu nod yw darparu cyflwyniad da i faes pwnc i ddysgwyr, yn ogystal â datblygu diddordeb yn y pwnc, cyfrannu at addysg gytbwys a darparu sail ar gyfer astudio ymhellach neu gyflogaeth. Er mor clodwiw yw'r nodau hyn, maent wedi cael eu tanseilio gan ddefnydd helaeth o ganlyniadau cymwysterau ym mesurau perfformiad ysgol.  Yn ymarferol, mae hyn yn golygu bod llawer o amser cwricwlwm yn cael ei ragnodi'n ganolog gan y Llywodraeth. A yw hynny'n sicrhau addysg gytbwys neu'n ei thanseilio? Mae hynny eto i'w ateb. Beth sydd yn glir, fodd bynnag, yw mai dim ond hyn a hyn o amser sydd ar gael yn yr ysgol, felly bydd addysg gytbwys yn gofyn am ddatrysiadau creadigol a chyfaddawd bob amser. 

O ystyried nodau cyffredinol TGAU, ymddengys yn rhyfedd y cynigir cyn lleied ym meysydd galwedigaethol dysgu. Yr hydref hwn, caiff TGAU newydd mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol ei lansio, yn dilyn ein hadolygiad o gymwysterau yn y sector cyflogaeth hanfodol hwn. Ond, yn fwy cyffredinol, mae tuedd wedi bod yn y blynyddoedd diwethaf i symud oddi wrth TGAU mewn cyd-destunau galwedigaethol a thuag at TGAU mewn pynciau traddodiadol 'academaidd' yn unig.   

Ymddengys hyn yn anghywir, ac mae'n bosibl y bydd ailgynllunio TGAU ar gyfer y Cwricwlwm newydd i Gymru yn gyfle i fynd i'r afael â'r anghysondeb hwn.  Bydd ailgyflwyno cyd-destunau galwedigaethol i'r gorlan TGAU yn helpu i fynd i'r afael â'r broblem hirsefydlog o weld pynciau galwedigaethol a phynciau academaidd yn cael eu trin yn gyfartal. 

2. Graddio - A* i G neu 9 i 1? 

Argymhelliad allweddol o'r Adolygiad o Gymwysterau oedd cadw'r raddfa graddau A* - G sy'n bodoli eisoes. Roedd hyn pan oedd y raddfa graddau 9 i 1 yn dal i fod yn syniad yn unig. Pe gofynnid p’un a ddylid cadw'r hyn sy'n hysbys a'r hyn a ddelir, neu newid i rywbeth newydd nas delir yn dda, nid yw'n syndod i'r rhan fwyaf ddewis cadw at yr hyn a oedd yn gyfarwydd iddynt. Ond dros amser - ac oherwydd y nifer enfawr o raddau sy'n cael eu dyfarnu - bydd y raddfa graddau 9 i 1 yn raddol dominyddu ledled y DU. Gall hyn effeithio ar y farn os gofynnir eto. Felly, ai nawr yw'r amser i ailfeddwl hyn? 

Mae'n rhy gynnar i ddweud p'un a oes cryn dipyn yn fwy o ofyn am y gwahaniaethu mwy a gynigir gan y raddfa 9 i 1, felly nid wyf yn gweld yr angen i newid ar frys. Mae hynny'n golygu fy mod yn fwy tueddol o ffafrio cadw'r raddfa A* i G a chadw llygad barcud ar yr opsiwn i newid yn hwyrach - gan gynnwys yr opsiwn i newid yng nghynllun y TGAU newydd. Byddai'n well gennyf weld ffocws ar weld gwerth pob gradd sy'n cael ei dyfarnu ar lefel TGAU ac nid atgyfnerthu'r camganfyddiad bod unrhyw beth o dan radd C yn fethiant. Mae ond yn tanseilio'r cyflawniad y bydd rhai wedi gweithio'n galed amdano. 

3. Tegwch v rhyddid - sut i gael y cydbwysedd cywir? Sut i sicrhau tegwch i ddysgwyr heb danseilio'r egwyddor o hyblygrwydd a fwriedir gan y cwricwlwm newydd? 

Ar gyfer TGAU, mae'r wybodaeth, y ddealltwriaeth a'r sgiliau y mae'n rhaid i fyfyrwyr eu cwmpasu wedi'u nodi yn y fanyleb a'r deunyddiau asesu sy'n cael eu llunio gan y corff dyfarnu. 

Prawf hanfodol o degwch ar gyfer cymhwyster yw bod athrawon a dysgwyr yn deall yr hyn a ddisgwylir ganddynt. Mae'n rhaid bod gan gymhwyster fanyleb neu gall dysgwyr gael cwestiynau sy'n cwmpasu meysydd nad ydynt wedi cael eu haddysgu iddynt. Yr allwedd yw dod o hyd i gydbwysedd sy'n rhagnodi digon o fanylder i fodloni tegwch, ond sy'n gadael lle i athrawon deilwra'r cwricwlwm mewn ffordd sy'n addas ar gyfer eu dysgwyr. Yn y pen draw, mae addysg dda yn ymwneud â llawer mwy na chanlyniadau arholiad. Nid oes yr un ohonom am gael model lleihaol o addysg, lle mai'r unig beth sy'n cael ei addysgu yw'r hyn sydd yn y prawf. 

Wrth i'r broses ddiwygio fynd yn ei blaen, ac wrth i Gymru ddewis y llwybr gorau ar gyfer y daith, byddaf yn dychwelyd at y cwestiynau hanfodol hyn. Maent yn agored i ragor o bwyso a mesur a byddwn yn croesawu barn eraill.  

 

Philip Blaker yw Prif Weithredwr Cymwysterau Cymru, rheoleiddiwr annibynnol cymwysterau a ariennir yn gyhoeddus, gan gynnwys TGAU, Safon Uwch a chymwysterau galwedigaethol.