Fforwm i Gyrff Dyfarnu 2021
Eleni cynhaliwyd ein chewched Fforwm Cyrff Dyfarnu Blynyddol a'i nod oedd darparu gwybodaeth a mewnwelediad ar flaenoriaethau allweddol Cymwysterau Cymru.
Wedi'i deilwra'n benodol ar gyfer ein Cyrff Dyfarnu cydnabyddedig yng Nghymru, roedd agenda brysur wedi'i chynllunio nid yn unig i hysbysu, ond hefyd i ennyn hyder yn y system gymwysterau a chymwysterau yng Nghymru
Cawsom gyflwyniadau gan siaradwyr o Gymwysterau Cymru a Llywodraeth Cymru.
Yn y digwyddiad, dysgodd ein mynychwyr:
- sut mae'r cwricwlwm yng Nghymru yn newid a sut y gallwch gymryd rhan.
- sut y gallwch gefnogi pobl sy'n dysgu yng Nghymru drwy ddiwygio cymwysterau ôl-16.
- y diweddaraf am sefydlu'r Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil.
Gwelwch isod y sleidiau a recordiad o’r digwyddiad.