Prosiectau ymchwil cyfredol

Rydym yn ymgymryd ag ymchwil i helpu i fonitro ac adolygu cymwysterau presennol, ac i helpu i lunio’r gwaith o ddylunio a datblygu cymwysterau i ddysgwyr yng Nghymru yn y dyfodol. Yr hyn sy’n ganolog i’r rhaglen waith yw ystyried sut y gall cymwysterau gefnogi’r cwricwlwm newydd i ysgolion yng Nghymru. I gael rhagor o wybodaeth am bob un o’n prosiectau cyfredol, cliciwch ar y teitl perthnasol isod.

Archwilio Cymwysterau TGAU Mathemateg yng Nghymru

Mae Cymwysterau Cymru yn cynnal rhaglen ymchwil i archwilio cymwysterau Mathemateg yng Nghymru. Bydd y prosiect yn canolbwyntio ar TGAU Mathemateg, TGAU Mathemateg-Rhifedd a Lefel 2 mewn Mathemateg Ychwanegol.

I ddechrau, bydd y prosiect hwn yn cynnwys tri llinyn o waith:

Llinyn 1: Arolwg o athrawon Mathemateg i archwilio barn a safbwyntiau ynglŷn â dulliau cynllunio, haenu, cynnwys, hydrinedd a mynediad ar gyfer pob un o'r cymwysterau.

Llinyn 2: Archwiliad o luniadau asesiad y cymwysterau a sut maent yn berthnasol i'w gilydd.

Llinyn 3: Dadansoddiad data mewn perthynas â'r cymwysterau gan gynnwys dadansoddi cofrestriadau arholiad, canlyniadau a pherfformiad, cyn ac ar ôl cyflwyno'r TGAU Mathemateg newydd.

Mae'r cwricwlwm yng Nghymru yn mynd drwy gyfnod o ddiwygio ar hyn o bryd. Bydd y cwricwlwm newydd yn cael ei strwythuro o amgylch chwe Maes Dysgu a Phrofiad. O ystyried bod un o'r Meysydd Dysgu a Phrofiad yn canolbwyntio ar Faes Dysgu a Phrofiad Mathemateg a Rhifedd, gallwn ddisgwyl newidiadau pellach i gymwysterau TGAU Mathemateg yn y dyfodol. Nod ein hymchwil yw llywio unrhyw newidiadau o'r fath drwy gasglu gwybodaeth ynglŷn â ffocws pob cymhwyster a safbwyntiau'r rhai sy'n addysgu'r pynciau hyn.

Asesiad diarholiad mewn TGAU diwygiedig

Mae asesiad diarholiad yn cyfeirio at unrhyw fath o asesiad nad yw'n cynnwys arholiad y mae pob ymgeisydd yn ei sefyll ar yr un pryd. Felly mae asesiad diarholiad yn cwmpasu amrywiaeth o weithgareddau asesu gan gynnwys gwaith cwrs, asesiadau llafar, gwaith maes, gwaith portffolio ac asesiadau ymarferol. Fel rhan o raglen waith barhaus i ystyried sut y gall cymwysterau gefnogi'r cwricwlwm newydd yng Nghymru, byddwn yn archwilio p'un a yw'r dull gweithredu presennol o gyflwyno, asesu a chymedroli asesiadau diarholiad yn briodol.

Bydd y prosiect hwn yn cynnwys pedwar llinyn o waith:

Llinyn 1: Grwpiau ffocws gydag athrawon yn trafod eu profiadau a'u canfyddiadau o asesiad diarholiad mewn deg pwnc TGAU. Mae rhagor o wybodaeth ar sut mae athrawon yn gallu cymryd rhan yn y gwaith hwn ar gael yma.

Llinyn 2: Grwpiau ffocws gyda dysgwyr i archwilio eu profiadau a'u canfyddiadau o asesiad diarholiad mewn deg pwnc TGAU.

Llinyn 3: Ymchwilio i weithrediad asesu asesiad diarholiad, gan gynnwys dadansoddi'r broses o dargedu'r asesiadau a'u dibynadwyedd, i ba raddau y maent yn gwahaniaethu rhwng ymgeiswyr a phu'n a yw pwysoliadau bwriadedig asesiad diarholiad yn y graddau a gyflawnir gan ymgeiswyr yn cael eu cyflawni yn ymarferol.

Llinyn 4 Archwilio buddiannau posibl dulliau gweithredu amgen i gymedroli asesiad diarholiad.

Byddwn yn defnyddio'r canfyddiadau o'r ymchwil hon i lywio'r ffordd y caiff cymwysterau eu dylunio a'u datblygu yn y dyfodol, gan gynnwys ystyried sut y gall cymwysterau gefnogi'r cwricwlwm newydd yng Nghymru. 

Canfyddiadau athrawon ynghylch cymwysterau TGAU diwygiedig

Rydym wedi comisiynu astudiaeth er mwyn canfod barn athrawon am rhai o'r cymwysterau TGAU sydd wedi'u diwygio'n ddiweddar. Nodau'r gwaith yw:

  • Darganfod sut y mae'r cymwysterau newydd yn gweithio a beth yw effeithiau'r newidiadau.
  • Casglu tystiolaeth a allai lywio unrhyw ddiwygiadau i gymwysterau yn y dyfodol, gan gynnwys cefnogi'r cwricwlwm newydd yng Nghymru.

Bydd y darn o waith cyntaf hwn yn defnyddio cyfweliadau a grwpiau ffocws i archwilio barn athrawon am y pynciau TGAU canlynol: Daearyddiaeth, Gwyddoniaeth, Celfyddydau Perfformio, Saesneg, Cymraeg, Mathemateg ac Ieithoedd Tramor Modern.

Monitro hyder y cyhoedd mewn cymwysterau a'r system gymwysterau

Un o'n prif nodau yw ennyn hyder y cyhoedd mewn cymwysterau a'r system gymwysterau yng Nghymru. Rydym wedi comisiynu ymchwil i feithrin ein dealltwriaeth o hyder y cyhoedd mewn perthynas â'r nod hwn.

Nod yr ymchwil yw:

  • archwilio hyder rhanddeiliaid yn y system gymwysterau yng Nghymru;
  • ymchwilio i effaith Cymwysterau Cymru ar hyder y cyhoedd;
  • nodi'r cryfderau allweddol wrth ennyn hyder y cyhoedd a nodi unrhyw gyfyngiadau a phroblemau sy'n effeithio ar effeithiolrwydd, neu gyfleoedd i wella;
  • mesur canfyddiadau a lefelau hyder mewn cymwysterau.

Mae'r ymchwil yn cynnwys ymchwil feintiol ac ansoddol. Mae'r ymchwil ansoddol yn cael ei chynnal gan York Consulting ac wedi'i rhannu yn dri cham.

Gwnaethom ddechrau casglu data ar gyfer Cam 3 ym mis Tachwedd 2018 a disgwyliwn gyhoeddi'r canfyddiadau yn ystod gwanwyn 2019. Mae ymatebwyr yn cynnwys staff ysgol a chyrff cynrychioliadol o'r sector ysgolion, gwneuthurwyr polisi, darparwyr addysg bellach yng Nghymru, darparwyr addysg uwch (yng Nghymru a thu hwnt), darparwyr dysgu seiliedig ar waith, cyrff dyfarnu a chynrychiolwyr cyflogwyr.

Rydym hefyd wedi comisiynu arolwg o hyder y cyhoedd sy'n cael ei gynnal gan Beaufort Research. Mae'r arolwg yn gofyn i sampl gynrychioliadol o'r cyhoedd yng Nghymru ynglŷn ag agweddau ar eu hyder mewn TGAU, Safon Uwch, cymwysterau galwedigaethol a Bagloriaeth Cymru a'r Dystysgrif Her Sgiliau.

Ffioedd a gwasanaethau

Rydym wedi comisiynu London Economics Cymru i adolygu'r gwasanaethau a ddarperir, a'r ffioedd a godir, gan gyrff dyfarnu sy'n cynnig cymwysterau TGAU a Safon Uwch yng Nghymru. Bydd y gwaith hwn yn ein helpu i ddatblygu'r ffordd rydym yn rheoleiddio cyrff dyfarnu fel y gall defnyddwyr cymwysterau yng Nghymru fod yn hyderus bod y gwasanaethau a gânt, a'r ffioedd a godir arnynt, yn gystadleuol.