Cyflwyniad

Dweud eich dweud

P'un a ydych chi'n athro, dysgwr, rhiant, llywodraethwr neu gyflogwr neu'n syml â diddordeb mewn addysg, Have Your Say yw eich platfform pwrpasol i gyfrannu a rhoi sylwadau.

Beth bynnag yw'ch diddordeb mewn cymwysterau yng Nghymru, dyma ble gallwch chi lenwi ein harolygon diweddaraf, cofrestru ar gyfer un o'n grwpiau cynghori, neu ymateb i ymgynghoriadau mawr.

Y broses adolygu

Y Cynnig Llawn  o Gymwysterau 14-16

Yn Cymwysterau Cymru, rydyn ni’n ailddychmygu cymwysterau ar gyfer dysgwyr 14 i 16 oed i gefnogi’r Cwricwlwm i Gymru.   

Rhan fawr o'r gwaith hwnnw yw creu cymwysterau TGAU newydd sbon wedi’u Gwneud-i-Gymru. Mae'r gwaith hwnnw wedi hen ddechrau. Gallwch ddarganfod mwy am y gwaith hwnnw yma 

Fodd bynnag, rydym yn cydnabod na ddylai TGAU fod yr unig gymwysterau sydd ar gael ar y cam hwn o ddysgu. Rydyn ni angen ystod glir a chwbl gynhwysol o gymwysterau ar gyfer pob dysgwr yng Nghymru, sy’n cefnogi uchelgeisiau’r Cwricwlwm i Gymru ac yn annog llwyddiant yn y dyfodol mewn bywyd, dysgu a gwaith.  

Mae'r ymgynghoriad hwn yn nodi ein cynigion ar gyfer ystod gyffrous ac arloesol o gymwysterau i fodloni'r angen hwnnw. Rydym yn eu disgrifio isod mewn tri grŵp: Cyfres Sgiliau, cymwysterau Cyn-alwedigaethol a chymwysterau Sylfaen.  Ynghyd â TGAU byddant yn ffurfio'r Cynnig  Llawn o Gymwysterau 14-16 yng Nghymru.

Nawr dyma’ch cyfle chi i ddweud eich dweud ar ein cynigion ac i fod yn rhan o’r sgwrs genedlaethol ar sut mae ein dysgwyr yn dod yn Gymwys ar gyfer y dyfodol. Byddem wrth ein bodd yn clywed gennych.   

Dyddiad cau’r ymgynghoriad: hanner nos, 14 Mehefin 2023.  

Cymwysterau Lletygarwch ac Arlwyo

Dros y ddwy flynedd ddiwethaf, rydyn ni wedi cwblhau adolygiad sector helaeth o gymwysterau yn y sector Teithio, Twristiaeth, Lletygarwch ac Arlwyo. Gallwch ddarllen rhagor am hynny yn ein hadroddiad Ar Daith.

Nododd ein hadolygiad rai problemau gyda’r cymwysterau Lletygarwch ac Arlwyo sy’n cael eu cynnig yng Nghymru ar hyn o bryd. Felly, rydyn ni wedi creu cynigion ar gyfer cymwysterau Lletygarwch ac Arlwyo newydd ar gyfer dysgwyr ôl-16 yng Nghymru, ac rydyn ni eisiau gwybod beth yw eich barn amdanyn nhw.

Ymgynghoriad yn cau am hanner nôs ar 2 Mehefin 2023.