Cwestiynau Cyffredin – Cymwysterau Cymraeg

Ers i Lywodraeth Cymru gyhoeddi’r Cwricwlwm newydd i Gymru, sy'n ceisio rhoi mwy o gyfleoedd i ddysgwyr lwyddo drwy addysg eang a chytbwys, roedden ni’n gwybod bod yn rhaid i ni ddechrau sgwrs ehangach ar sut dylai cymwysterau ar gyfer pobl ifanc 14 i 16 oed edrych.

Roedden ni am siarad â phawb a fyddai'n cael eu heffeithio gan hyn – dysgwyr, athrawon, rhieni a gofalwyr, cyflogwyr, prifysgolion a'r cyhoedd. Yn ein hymgynghoriad a’n hadroddiad penderfyniadau, gwnaethon ni nodi ein gweledigaeth ar gyfer cymwysterau’r dyfodol a gofyn beth ddylai ddigwydd i gymwysterau TGAU a'r Dystysgrif Her Sgiliau.

Wnaethon ni ddim cynnwys cymwysterau Cymraeg yn ein hadroddiad penderfyniadau cyhoeddedig. Penderfynon ni gadw ein penderfyniad yn ôl ac adolygu'r cymwysterau sydd ar gael ar lefel TGAU ynghyd â bwriadau polisi presennol Llywodraeth Cymru ar y Gymraeg.

Yn dilyn yr adolygiad hwnnw, bydd triawd o gymwysterau yn cael eu creu:

  • Bydd Cymraeg Iaith a Llenyddiaeth Gymraeg yn cael eu cyfuno'n un TGAU ar gyfer disgyblion mewn ysgolion, canolfannau a lleoliadau cyfrwng Cymraeg a dwyieithog.
  • Bydd TGAU Cymraeg Ail Iaith yn dod i ben, a bydd TGAU Cymraeg newydd yn cael ei greu ar gyfer dysgwyr mewn ysgolion, canolfannau a lleoliadau cyfrwng Saesneg.
  • Bydd cymhwyster newydd, ychwanegol ar gyfer disgyblion mewn ysgolion, canolfannau a lleoliadau cyfrwng Saesneg yn cael ei greu ar gyfer y rhai sy'n barod i symud ymlaen ymhellach yn eu sgiliau Cymraeg.

Rydyn ni wedi llunio rhestr o gwestiynau cyffredin am y tri chymhwyster.

Os na allwch ddod o hyd i'r atebion rydych chi’n chwilio amdanyn nhw, neu os oes gennych gwestiwn nad yw wedi’i restru isod, cysylltwch â ni drwy e-bostio diwygio@cymwysteraucymru.org. Fel arall, os ydych chi am rannu adborth a syniadau am y cymwysterau newydd hyn neu os hoffech fod yn rhan o un o'n grwpiau rhanddeiliaid, rhowch wybod i ni drwy e-bostio'r cyfeiriad uchod.  

Gallwch hefyd ddarllen yr adroddiad penderfyniadau ar gymwysterau Cymraeg, gael rhagor o wybodaeth.

Pam mae Cymwysterau Cymru wedi penderfynu cynnig tri chymhwyster Cymraeg yn hytrach na dim ond un?

Ein nod yw cael un cymhwyster Cymraeg cyffredinol ar gyfer ein dysgwr ym mhob lleoliad, ond nid ydyn ni yno eto oherwydd bod gan ddysgwyr lefelau amrywiol o gysylltiad â'r iaith. Hefyd, mae'r Cwricwlwm newydd i Gymru yn nodi dwy set wahanol o ddisgwyliadau ar gyfer dysgwyr mewn ysgolion cyfrwng Saesneg a chyfrwng Cymraeg, gan y bydd dysgwyr yn datblygu eu sgiliau Cymraeg ar gyflymder gwahanol.

Rydyn ni am annog pob dysgwr i ddefnyddio’r Gymraeg yn hyderus, gan gefnogi strategaeth 'Cymraeg 2050'  Llywodraeth Cymru.

Felly, drwy gynnig y tri chymhwyster yma, bydd gan ddysgwyr gyfle teg a chyfartal i gyflawni yn y Gymraeg, ni waeth pa fath o ysgol maen nhw’n ei mynychu.

Beth yw barn pobl am y tri chymhwyster?

Rydyn ni’n gwybod y gallai cymwysterau dderbyn adolygiadau cymysg, ond rydyn ni wedi gweithio'n agos gydag athrawon, arbenigwyr pwnc a Llywodraeth Cymru dros y misoedd diwethaf i sicrhau bod y cynnig hwn yn diwallu anghenion dysgwyr fel bod ganddyn nhw’r sgiliau a'r hyder i ddefnyddio'r Gymraeg yn eu dysgu, eu gwaith a'u bywydau bob dydd.

Er enghraifft, dywedodd Jeremy Miles, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg: "Dylai cymwysterau Cymraeg gefnogi pob dysgwr ar eu taith Gymraeg a darparu llwybr tuag at nod cyffredin. Rwy’n croesawu’r cymwysterau Cymraeg newydd, sy’n cael gwared ar y cysyniad o’r Gymraeg fel ail iaith ac a fydd yn gwobrwyo gwaith caled y rhai sy’n astudio’r Gymraeg ar draws sbectrwm cyfan profiad a gallu yn y Gymraeg.

“Rydw i wedi bod yn glir bod yn rhaid i newidiadau i gymwysterau fod yn radical ac yn uchelgeisiol a chefnogi’r Cwricwlwm newydd, wrth i ni symud at gontinwwm ar gyfer dysgu Cymraeg, o’r rhai sydd ag ychydig neu ddim profiad iaith, i’r rhai sy’n gweithio tuag at hyfedredd.

"Mae cyfle gwirioneddol i weithio gyda Cymwysterau Cymru i helpu i lunio'r cymwysterau newydd hyn ac rwy'n annog pawb sydd â diddordeb i ymwneud â'r broses dros y misoedd nesaf."

Buom hefyd yn siarad â Dr Alex Lovell, Uwch-ddarlithydd Cymraeg, Prifysgol Abertawe a ddywedodd: "Does dim dwywaith bod angen gwneud llawer mwy o waith er mwyn cau'r bwlch rhwng ysgolion Cymraeg a Saesneg mewn perthynas â darpariaeth Gymraeg. Serch hynny, mae penderfyniad Cymwysterau Cymru i greu cymhwyster TGAU Cymraeg newydd a fydd unwaith eto'n cynyddu'r her a'r disgwyliadau i ddysgwyr yn y sector cyfrwng Saesneg i'w groesawu'n gyffredinol. Ac mae eu penderfyniad i greu cymhwyster ychwanegol i bontio rhwng y ddau TGAU newydd yn arbennig yn gam cyntaf pwysig tuag at gefnogi uchelgais Cymraeg 2050 a galluogi'r dysgwyr Cymraeg hynny sy'n dymuno symud yn gyflymach ac ymhellach ar hyd y continwwm i wneud hynny.”

Beth fydd yn digwydd i'r cymwysterau TGAU Cymraeg presennol sy’n cael eu cynnig gan ysgolion a chanolfannau?

Pan fydd y cymwysterau hyn yn cael eu cyflwyno i ysgolion yn 2025, ni fydd y cymwysterau TGAU Cymraeg presennol ar gael i ddysgwyr newydd mwyach. Bydd y dysgwyr hynny sydd wedi dechrau un o'r cymwysterau TGAU hyn yn gallu gorffen eu hastudiaethau a chael y cyfle i ailsefyll os oes angen.

Sut fydd y tri chymhwyster Cymraeg newydd yn edrych?

Fel rhan o'n gwaith gydag athrawon a chynghorwyr, rydyn ni’n edrych ar y dibenion, y cynnwys, yr asesu a'r berthynas rhwng y tri chymhwyster a sut maen nhw’n cefnogi un continwwm o addysgu a dysgu.

Erbyn yr haf hwn, ein nod yw cael cynigion ar gyfer pob un o'r tri chymhwyster a byddwn yn gofyn am adborth. I gael rhagor o wybodaeth am y broses adborth, darllenwch y cwestiwn isod.

A fyddwch yn ymgynghori ymhellach ynghylch hyn?

Bydd pawb yn cael cyfle i roi adborth ar sut bydd y cymwysterau Cymraeg newydd yn edrych, ynghyd â newidiadau i bynciau eraill, yn nhymor yr hydref.

Ar ôl i'r broses adborth ddod i ben, byddwn ni’n gweithio gydag athrawon a chynghorwyr i adolygu'r pwyntiau a godwyd ac ystyried sut y gellir eu cynnwys yn ein cynigion. Byddwn ni’n esbonio sut rydyn ni wedi mynd i'r afael â'ch adborth chi pan fyddwn ni’n cyhoeddi'r gofynion terfynol ar gyfer y cymwysterau yn ystod haf 2023

Sut fyddwch chi'n rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i bobl am TGAU Cymraeg?

Byddwn yn diweddaru'r dudalen we hon gyda'r wybodaeth ddiweddaraf am gymwysterau Cymraeg, yn ogystal â rhannu diweddariadau amserol ar ein sianeli cyfryngau cymdeithasol. Os oes gennych chi gwestiwn, cysylltwch drwy anfon e-bost at: diwygio@cymwysteraucymru.org


Cyfuno Cymraeg Iaith a Llenyddiaeth Gymraeg

Pam mae iaith a llenyddiaeth yn cael eu cyfuno’n un cymhwyster TGAU?

Mae iaith a llenyddiaeth wedi'u cydgysylltu o fewn y Maes Dysgu a Phrofiad Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu (MPDh ILlCh). Felly, drwy gyfuno iaith a llenyddiaeth yn un cymhwyster, mae’n ei gwneud yn haws i ddysgwyr greu cysylltiadau rhwng y ddau. 

Mae asesu iaith a llenyddiaeth gyda'i gilydd yn ffordd gadarnhaol i ddysgwyr ddatblygu sgiliau ieithyddol, gan ddechrau gyda'r rhagdybiaeth fod llenyddiaeth yn cael ei chreu gan ddefnyddio iaith, sy'n allweddol i ddeall sut mae iaith yn gweithio. 

Beth sy'n digwydd i ddysgwyr sydd am astudio llenyddiaeth fel pwnc ar wahân?

Mae ein data'n dangos nad yw pob dysgwr sy'n dilyn TGAU Cymraeg Iaith hefyd yn dilyn TGAU Llenyddiaeth Gymraeg (Ffynhonnell: Cronfa Ddata Arholiadau Cymru). Trwy integreiddio iaith a llenyddiaeth i mewn i un cymhwyster, mae hyn yn rhoi mwy o gyfle i ddysgwyr ddod i gysylltiad â llenyddiaeth fel pwnc, yn ogystal â chynnig cyfle iddyn nhw astudio pynciau ychwanegol ar lefel TGAU.

A fydd y penderfyniad hwn yn rhoi dysgwyr sydd am astudio llenyddiaeth ar gyfer Safon Uwch o dan anfantais?

Ni ddylai dilyniant i Safon Uwch gael ei effeithio’n andwyol, gan fod y Safon Uwch Cymraeg cyfredol yn cyfuno iaith a llenyddiaeth yn ei faes llafur. Mae hyn yr un fath ar gyfer Addysg Uwch pe baet yn astudio Cymraeg ar lefel gradd.

Ai Cymru yw'r unig wlad i gyfuno iaith a llenyddiaeth?

Nage, mae llefydd eraill ar draws y byd yn cyfuno iaith a llenyddiaeth, gan gynnwys yr Alban, Gweriniaeth Iwerddon, De Cymru Newydd, Seland Newydd a Japan.

Ai Cymraeg yw'r unig bwnc lle bydd iaith a llenyddiaeth yn cael eu cyfuno?

Rydyn ni wedi penderfynu cyfuno iaith a llenyddiaeth ar gyfer TGAU Saesneg hefyd, fel y soniwyd yn ein hadroddiad penderfyniadau.

Pwy fydd yn gallu astudio'r cymhwyster TGAU cyfunol newydd hwn?

Bydd y cymhwyster hwn ar gael i ddysgwyr mewn lleoliadau dwyieithog a chyfrwng Cymraeg o fis Medi 2025.

Beth fydd maint y cymhwyster TGAU newydd?

Byddai'r cymhwyster TGAU cyfun newydd hwn tua’r un maint ag un cymhwyster TGAU a hanner. Mae hyn yn adlewyrchu ein dull o greu TGAU iaith a llenyddiaeth gyfun newydd yn Saesneg.  

A fydd lleihau maint y cymhwyster TGAU yn golygu bydd yn rhaid i ysgolion leihau'r amser addysgu?

Yr ysgol/canolfan sy'n gyfrifol am yr amser a gaiff ei dreulio yn addysgu pynciau ac rydyn ni’n gwybod y gall yr amser a gaiff ei dreulio yn addysgu Cymraeg amrywio o ysgol i ysgol.

Byddwn ni’n gweithio gydag eraill i gyhoeddi canllawiau i ysgolion ac athrawon ar ddarpariaeth addysgu ar gyfer y cymwysterau newydd hyn er mwyn helpu i wneud y newid mor llyfn â phosibl a lleddfu'r baich ar gynllunio.


TGAU newydd mewn Cymraeg i ddysgwyr mewn lleoliadau cyfrwng Saesneg

Pam fod y TGAU Cymraeg Ail Iaith newydd yn dod i ben?

Rydyn ni wedi penderfynu dod â TGAU Cymraeg Ail Iaith i ben i gefnogi polisi Llywodraeth Cymru o gael un continwwm ar gyfer addysgu a dysgu Cymraeg (a elwir yn 'gontinwwm y Gymraeg'). Yn ei le, byddwn yn creu TGAU mewn Cymraeg ar gyfer dysgwyr mewn lleoliadau cyfrwng Saesneg.

Sut bydd y TGAU newydd yn wahanol i'r TGAU Cymraeg Ail Iaith?

Mae cymwysterau Cymraeg i ddysgwyr mewn lleoliadau cyfrwng Saesneg wedi bod yn cael eu datblygu dros y pum mlynedd diwethaf.

Yn 2017, disodlodd y TGAU Cymraeg Ail Iaith presennol y cyrsiau llawn a byr mewn TGAU Cymraeg Ail Iaith a TGAU Cymraeg Cymhwysol. Y newidiadau hyn oedd y cam cyntaf ar daith barhaus o ddiwygio a datblygu cymwysterau Cymraeg.

Cytunwyd bob amser y byddai TGAU Cymraeg Ail Iaith yn cael ei adolygu eto ar ôl 2017 yn unol â chanllawiau'r cwricwlwm newydd. Felly, bydd y cymhwyster newydd hwn yn adeiladu ar y TGAU diwygiedig ac yn cynnwys:

  • Ffocws cryfach ar ddatblygu medrau siarad a gwrando dysgwyr
  • Mwy o bwyslais ar allu dysgwyr i gyfathrebu'n effeithiol a sgwrsio'n ddigymell
  • Integreiddio patrymau a sgiliau iaith, yn hytrach na dwyn i gof ymadroddion a geirfa.

A fydd gan y cymhwyster TGAU newydd deitl newydd?

Bydd. Gan y bydd yn wahanol i'r TGAU Cymraeg Ail Iaith presennol, bydd angen enw newydd arno. Byddwn yn trafod hyn gydag athrawon, dysgwyr ac arbenigwyr pwnc eraill wrth i ni edrych ar gynnwys, asesu a dylunio'r cymhwyster newydd.

Byddwn ni’n rhoi gwybod i bobl am enw llawn y cymhwyster TGAU unwaith y byddwn ni wedi cytuno arno. 

Pwy fydd yn gallu astudio'r cymhwyster TGAU newydd hwn?

Bydd y TGAU newydd yn cael ei gynnig i ddysgwyr mewn ysgolion a chanolfannau cyfrwng Saesneg o fis Medi 2025.

Pa mor heriol fydd y TGAU newydd?

Ein nod yw bydd y TGAU newydd o leiaf yr un mor heriol â'r cymhwyster presennol.

Rydyn ni’n ymwybodol o'r effaith mae Covid-19 wedi'i chael ar ysgolion, ac mae athrawon wedi mynegi pryderon am lai o amser cyswllt gyda'u dysgwyr a sut y gallai hyn effeithio ar ddisgwyliadau a chyrhaeddiad.

Ynghyd ag athrawon, byddwn ni’n adolygu'r TGAU Cymraeg Ail Iaith bresennol i ddeall beth sy'n gweithio'n dda a beth y gellir ei wella. Byddwn ni’n defnyddio’r hyn a ddysgwn wrth ddatblygu'r cymhwyster newydd yn seiliedig ar ddisgwyliadau’r Cwricwlwm i Gymru.

Bydd dysgwyr sy'n barod i ddatblygu eu Cymraeg ymhellach yn gallu dilyn y cymhwyster ychwanegol newydd fel dilyniant o'r TGAU hon (gweler mwy o fanylion isod).

A fydd mesurau perfformiad ysgolion yn y dyfodol yn effeithio ar y cymwysterau Cymraeg newydd hyn?

Mae Llywodraeth Cymru yn diwygio sut bydd y broses o werthuso a gwella ysgolion yn gweithio yn y dyfodol. Mae hyn yn cynnwys ailystyried a fydd mesurau perfformiad ysgolion yn parhau i fodoli a sut y gellid eu defnyddio. Rydyn ni’n cynnal trafodaethau rheolaidd gyda Llywodraeth Cymru am y diwygiadau hyn, yn ogystal â'i disgwyliadau o ran sut y dylai dysgu’r Gymraeg gael ei gynnwys mewn cwricwlwm ysgol.

Byddwn ni’n parhau i weithio gyda Llywodraeth Cymru ac eraill i edrych ar sut y gallwn ni helpu ysgolion i wneud y gorau o'r cymwysterau newydd hyn fel bod pob dysgwr yn gwneud cymaint o gynnydd â phosibl gyda'u Cymraeg.


Cymhwyster newydd, ychwanegol i ddysgwyr mewn lleoliadau cyfrwng Saesneg

Pwy fydd yn gallu astudio'r cymhwyster TGAU ychwanegol newydd hwn?

Bydd y cymhwyster hwn yn cael ei gynnig i ddysgwyr mewn ysgolion, canolfannau a lleoliadau cyfrwng Saesneg sy’n barod i symud ymlaen ymhellach ac yn gyflymach yn eu sgiliau Cymraeg.

Er enghraifft, efallai bydd dysgwyr am astudio'r cymhwyster hwn i ymarfer defnyddio'r Gymraeg tu allan i'r ystafell ddosbarth.

Yn ogystal, gellir ei gynnig i ddysgwyr sydd am fagu eu hyder cyn symud ymlaen i Safon Uwch Cymraeg.

Hefyd, gall athrawon nodi dysgwyr sy'n teimlo eu bod yn barod i gael eu herio a'u hymestyn hyd yn oed ymhellach yn eu sgiliau Cymraeg a'u hargymell i ddilyn y cymhwyster ychwanegol hwn.

Sut bydd y cymhwyster ychwanegol newydd hwn yn edrych?

O ran ei faint, bydd y cymhwyster yn llai na chymhwyster TGAU. Byddwn ni’n pennu'r union faint gydag athrawon, dysgwyr ac arbenigwyr pwnc eraill wrth i ni edrych ar y cynnig cymhwyster Cymraeg cyfan sydd ar gael i ddysgwyr mewn ysgolion cyfrwng Saesneg.

Awgrymwyd themâu fel hanes a diwylliant Cymru fel topigau i'w cynnwys yn y cymhwyster newydd hwn. Rydyn ni am i'r cymwysterau Cymraeg hyn gyfoethogi profiad yr iaith i'n dysgwyr mewn ysgolion a chanolfannau cyfrwng Saesneg, felly byddwn ni’n archwilio syniadau a gaiff eu hawgrymu a sut y gallan nhw ein helpu ni i gyflawni hyn. Os oes gennych chi awgrymiadau neu adborth ar y cymwysterau hyn, neu os hoffech chi gymryd rhan, cysylltwch â ni drwy e-bostio diwygio@cymwysteraucymru.org.

Pryd bydd disgwyl i ddysgwyr astudio'r cymhwyster ychwanegol hwn yn yr ysgol?

Bydd y cymhwyster ychwanegol hwn yn cael ei addysgu ochr yn ochr â'r TGAU yn yr un wers, felly fydd ddim angen unrhyw adnodd addysgu nac amserlennu ychwanegol.

Bydd athrawon yn defnyddio gwahaniaethu i nodi'r dysgwyr hynny yn y wers sy'n symud ymlaen yn gyflymach ar hyd y continwwm ac sy'n barod i astudio'r cymhwyster hwn.

Bydd yn cael ei addysgu mewn ysgolion o fis Medi 2025. 

Beth fydd enw'r cymhwyster newydd?

Byddwn ni’n meddwl am enw newydd gydag athrawon, dysgwyr ac arbenigwyr pwnc eraill wrth i ni edrych ar gynnwys, asesu a dylunio'r cymhwyster newydd.

Byddwn ni’n rhoi gwybod i bawb yn yr hydref.