Cofrestriadau a chofrestriadau hwyr ar gyfer TGAU a Safon Uwch yng Nghymru: blwyddyn academaidd 2018/19
Datganiad blynyddol sy'n cyflwyno data ar nifer y cofrestriadau a chofrestriadau hwyr ar gyfer cymwysterau TGAU, UG a Safon Uwch yng Nghymru.
Dyddiad rhyddhau: Dydd Iau 21 Tachwedd, 2019
Y Cyfnod a drafodir:
Blwyddyn academaidd 2018/19
Diweddariad nesaf: Tachwedd 2020 (Dros Dro)
Pwyntiau Allweddol:
- Dyfarnwyd 327,750 o dystysgrifau TGAU yn 2017-18, sef gostyngiad o 1 y cant;
- Dyfarnwyd 73,845 o dystysgrifau UG a Safon Uwch yn 2017-18, sef gostyngiad o 8 y cant;
- Roedd 980,700 o gofrestriadau TGAU, sef gostyngiad o 2 y cant. O'r rhain roedd 14.1 y cant yn gofrestriadau hwyr, sef gostyngiad o 6.9 pwynt canran;
- Roedd 178,735 o gofrestriadau UG a Safon Uwch, sef gostyngiad o 0 y cant. O'r rhain roedd 7.4 y cant yn gofrestriadau hwyr, sef gostyngiad o 2.1 pwynt canran.
- Mae'r ystadegau yn y datganiad hwn ar lefel cymhwyster ac felly ni ellir dadansoddi'r ffactorau a allai fod wedi dylanwadu ar unrhyw newidiadau. Am sylwadau ar y ffactorau allanol gweler ein datganiad ystadegol 'Cofrestriadau dros dro ar gyfer arholiadau Haf 2018 yng Nghymru: TGAU, UG, Safon Uwch, Tystysgrif Her Sgiliau, a thystysgrifau Lefel 1/Lefel 2'.
- Y diffiniad o gofrestriad hwyr at ddibenion ystadegol yw cofrestriad a ddaeth i law ar ôl hanner nos ar y dyddiad cau ar gyfer pob cyfres arholiadau. Nid yw'r diffiniad o gofrestriadau hwyr a ddefnyddir at ddibenion ystadegol yn golygu bod yn rhaid i ganolfannau dalu ffi i'r corff dyfarnu am bob un o'r cofrestriadau hwyr hyn. Mae gan gyrff dyfarnu ddyddiadau gwahanol y codir ffi hwyr ar eu hôl ac, felly, nid yw'r ystadegau ar gyfer cofrestriadau hwyr o reidrwydd yn cynrychioli nifer y cofrestriadau y codwyd ffi hwyr mewn perthynas â nhw.
Cyswllt
Ystadegydd
Ffôn: 01633 373 292
E-bost: ystadegau@cymwysteraucymru.org
Y Wasg
Ffôn: 01633 373 216
E-bost: cyfathrebu@cymwysteraucymru.org