Cais am arbenigwyr pwnc ar gyfer monitro cymwysterau
CYFEIRNOD Y CAIS: QW202124
Mae Cymwysterau Cymru’n cynnal rhaglen fonitro flynyddol ar nifer o gymwysterau allweddol yng Nghymru. Mae arbenigwyr pwnc yn cynorthwyo Cymwysterau Cymru i sicrhau bod safonau yn y cymwysterau hyn yn briodol, ac/neu asesu i'n cynorthwyo yn ein rhaglen fonitro flynyddol a sicrhau bod ein barn am berfformiad CBAC mewn cymwysterau allweddol yn cael ei ffurfio gydag arbenigedd pwnc priodol.
Mae gofyn i arbenigwyr pwnc lunio barn am briodoldeb gweithdrefnau a phrosesau a ddefnyddir gan y corff dyfarnu, gan ddefnyddio eu gwybodaeth a'u dealltwriaeth eu hunain a gan gyfeirio at feini prawf a gyhoeddir.
Bydd arbenigwyr pwnc yn derbyn manyleb(au) a meini prawf perthnasol i sicrhau eu bod yn gyfarwydd â meini prawf cymwysterau, yn ogystal â’r prosesau a'r gweithdrefnau perthnasol ar gyfer dyfarnu cymwysterau achrededig. Darperir hyfforddiant lle bo angen.
Gofynion
Mae galw am arbenigwyr pwnc â dealltwriaeth o gymwysterau TGAU a/neu Safon Uwch yn y meysydd canlynol: |
Gwyddoniaeth Gymhwysol |
Gwyddoniaeth |
Bioleg |
Cemeg |
Ffiseg |
Saesneg Iaith |
Llenyddiaeth Saesneg |
Cymraeg |
Ffrangeg |
Daearyddiaeth |
Mathemateg |
Mathemateg - Rhifedd |
Mathemateg Bellach |
Cyfrifiadureg Iechyd a Gofal Cymdeithasol, a Gofal Plant |
Rydym hefyd yn chwilio am arbenigwyr i fonitro ein Cymwysterau Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant Newydd.
Sut i ymgeisio
I wneud cais am y rolau hyn, yn gyntaf bydd angen i chi gofrestru fel cyflenwr ar GwerthwchiGymru. Yna gallwch lawrlwytho a llenwi'r ffurflen gais, a chyflwyno copi o'ch CV drwy'r wefan. Y dyddiad cau ar gyfer ymgeisio yw dydd Llun 8 Chwefror 2021.
I ddod o hyd i'r wybodaeth sy'n ymwneud â'r rôl hon, chwiliwch GwerthwchiGymru am 'Cymwysterau Cymru' ym maes y Prynwr a dewiswch: ‘Arbenigwyr Pwnc ar gyfer Monitro Cymwysterau Cyffredinol’. Cyfeirnod y tendr yw QW202124
Ar ôl i chi gyrraedd yr hysbyseb berthnasol, cofnodwch eich diddordeb drwy glicio'r botwm ar frig yr hysbyseb i sicrhau eich bod yn derbyn unrhyw ohebiaeth ynglŷn â'r broses ymgeisio. Ni fydd hyn yn eich ymrwymo i gyflwyno cais.
PWYSIG: Nodwch na allwn dderbyn ceisiadau drwy unrhyw ddull arall.
Bydd templed Ymateb i'w gwblhau i brofi eich cymhwysedd yn erbyn y meini prawf. Disgwyliwn i bob contract gael ei ddyfarnu erbyn canol mis Mawrth 2021.
Cofrestru fel cyflenwr ar GwerthwchiGymru.
Mae cofrestru am ddim, dim ond ychydig funudau y mae'n ei gymryd ac nid yw'n eich ymrwymo i wneud cais am gontract. Bydd cofrestru hefyd yn eich galluogi i dderbyn gwybodaeth am gyfleoedd gyda Cymwysterau Cymru yn y dyfodol. Gallwch wneud cais drwy'r sefydliad yr ydych yn gweithio iddo ar hyn o bryd neu fel unigolyn, ond gwnewch yn glir ar eich ffurflen ymateb gyda phwy y byddwn yn contractio.
Nodwch, nid ydym yn ei gwneud yn ofynnol i ymgeiswyr fod â Rhif Dun & Bradstreet i wneud cais am y rôl hon. I gofrestru fel cyflenwr heb rif DUNs, gadewch y maes hwn yn wag ac yna cliciwch "chwilio". Bydd blwch ticio yn ymddangos sy'n eich galluogi i osgoi'r gofyniad hwn a chofrestru fel cyflenwr